SL(6)099 - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021
Cefndir a Diben
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 sy’n dynodi cyrff penodedig mewn perthynas â Gweinidogion Cymru er mwyn cynnwys, o fewn cynnig cyllidebol, yr adnoddau y disgwylir i’r cyrff hynny eu defnyddio.
Mae'r Gorchymyn hwn yn mewnosod tri deg wyth corff newydd yn y rhestr o gyrff dynodedig sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodlen i Orchymyn 2018.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu’r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cafodd ei osod gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir un pwynt ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Gallai Gweinidogion Cymru ddewis pa weithdrefn yw defnyddio ar gyfer yr offeryn hwn yn unol ag adrannau 126A(9) ac 126A(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, a dewisiwyd y weithdrefn negyddol sydd,fe ymddengys, yn briodol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
8 Rhagfyr 2021